Wyt ti'n cofio gweld y ser yn y nen a'r machlud cyntaf? Cofio chditha'n dweud fod gen ti gur yn dy ben, wel, dim ond clwydda. Ti'n cofio deud fod gen ti hiraeth? Wyt ti'n cofio...
CYTGAN Dy eiriau di y noson honno? A tan ein cariad ni yn fflamio? A chditha'n methu peidio wylo? A lloer yr ynfyd yn ein swyno?
Wyt ti'n cofio ni yn dawnsio yn y gwyll a'r haul yn gwawrio? Wyt ti'n cofio clywed taran y dryll a chdithau'n syrthio? Ti'n cofio deffro o dy drwmgwsg? Wyt ti'n cofio...
CYTGAN Dy eiriau di y noson honno? A tan ein cariad ni yn fflamio? A chditha'n methu peidio wylo? A lloer yr ynfyd yn ein swyno?
Wyt ti'n cofio gweld dy lun ynof fi a gwaed y dagrau? Wyt ti'n meddwl fod yna yfory i ni ta gwag ydi'r camau? Ti'n cofio dianc o dy hiraeth? Wyt ti'n cofio...
CYTGAN Dy eiriau di y noson honno? A tan ein cariad ni yn fflamio? A chditha'n methu peidio wylo? A lloer yr ynfyd yn ein swyno?
Dy eiriau di y noson honno? A tan ein cariad ni yn fflamio? A chditha'n methu peidio wylo? A lloer yr ynfyd yn ein swyno?Teksty umieszczone na naszej stronie są własnością wytwórni, wykonawców, osób mających do nich prawa.