Arglwydd, arwain trwy'r anialwch, Fi, bererin gwael ei wedd, Nad oes ynof nerth na bywyd Fel yn gorwedd yn y bedd: Hollalluog, Hollalluog, Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan. Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan
Agor y ffynhonnau melus 'N tarddu i maes o'r Graig y sydd; Colofn dân rho'r nos i'm harwain, A rho golofn niwl y dydd; Rho i mi fanna, Rho i mi fanna, Fel na bwyf yn llwfwrhau. Fel na bwyf yn llwfwrhau.
Pan yn troedio glan Iorddonen, Par i'm hofnau suddo i gyd; Dwg fi drwy y tonnau geirwon Draw i Ganaan - gartref clyd: Mawl diderfyn. Mawl diderfyn Fydd i'th enw byth am hyn. Fydd i'th enw byth am hyn.Teksty umieszczone na naszej stronie są własnością wytwórni, wykonawców, osób mających do nich prawa.